England flag

Pwysigrwydd Gweirgloddiau

Mae gweirgloddiau a mathau eraill o laswelltirsy’n llawn blodau gwyllt yn rhan annatod o dreftadaeth naturiol a diwylliannol y DU. Maennhw’n cyfrannu mewn ffordd gyfoethog at gymeriad y tirlun, ein traddodiad ffermio, ein llên gwerin a’n hanes. Maen nhw wedi ysbrydoli llenorion ac arlunwyr ar hyd y canrifoedd – yn wir maen nhw mor werthfawr ag unrhyw drysor arall sy’n perthyn i’n cenedl.

Ond lle bynnag yr edrychwch hi, ar hyd a lled y DU,dim ond darnau pitw bach o laswelltir llawn blodau gwyllt sydd i’w gweld yng nghefn gwlad - llawer llai nag ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ar un adeg roedd gweirgloddiau naturiol, lliwgar yn nodwedd o bob plwyf ond heddiw dim ond 2% o’r gweirgloddiau a fodolai yn y 1930au sy’n weddill. Rydym wedi colli bron 7.5 miliwn erw o weirgloddiau blodeuog, ac maen nhw wrthi’n cael eu dinistrio o hyd. Ac o’r rhai sy’n dal ar ôl mae tua 75% yn ddarnau bychain, bregus a allai gael eu distrywio’n rhwydd.

Gall glaswelltiroedd a gweirgloddiau gynnal amrywiaeth ryfeddol o fywyd gwyllt – yn flodau,ffyngau, gwenyn, chwilod, pryfaid, corynnod, gwyfynod, glöynnod byw, ymlusgiaid, amffibiaid, mamaliaid bychain, ystlumod ac adar. Yn y DU mae mwy o rywogaethau sy’n flaenoriaeth o ran cadwraeth yn gysylltiedig â glaswelltiroedd nag efo unrhyw fath arall o gynefin. Dim ond 1% o arwynebedd y DU sydd bellach yn cynnal glaswelltir blodeuog a dim ond 2% o laswelltiroedd y DU sy’n cynnwys cyfoeth o rywogaethau gwahanol.

Mae glaswelltiroedd sy’n dda i fyd natur hefyd yn cynnig pob math o bethau gwerthfawr i ni fel pobl. Maen nhw’n storio carbon, yn helpu cadw dŵr yn ôl rhag iddo achosi llifogydd ac yn cynnig cynefin i greaduriaid sy’n peillio. Maen nhw hefydyn safleoedd archeolegol o bwys.

Yn ddiwylliannol mae glaswelltiroedd wedi ysbrydoli arlunwyr ac ysgrifennwyr ers canrifoedd. Mae llu o gyfeiriadau at ‘ddol’ neu ‘weirglodd’ yn ein llenyddiaeth ac mae arlunwyr a chrefftwyr cyfoes fel Meg Stevens, Eleri Mills, Wil Rowlands a Pamela Rawnsley wedi cyfleu naws ac ysbryd y cynefin yn fendigedig yn eu gwaith.Maen nhw hefyd yn gysylltiedigâ hen frwydrau,yn ganolbwynt i fywyd pentef mewn ambell fan ac yn britho enwau caeau, ffermydd, tai, pentrefi a threfi ar hyd a lled y wlad.

Mae dirywiad gweirgloddiau a glaswelltirblodeuog wedi bod yn syfrdanol. Welwyd mo’i debyg yn hanes cadwraeth natur yn y DU. O fewn un genhedlaeth fe diflannodd yr elfen hon yn llwyr o’n tirweddau gwledig ac o’n bywydau a’n traddodiadau. Cafodd chwe miliwn erw o laswelltir ei aredig er mwyn tyfu cnydau grawn yn ystod yr Ail Ryfel Byd a hyn oedd dechrau’r broses a fyddai’n arwain at golli 97% o weirgloddiau ar lawr gwlad Prydain yn ystod y 40 mlynedd ganlynol. Digwyddodd yr un peth i fathau eraill o laswelltir blodeuog, ond i raddau mymryn yn llai trychinebus.

Bydd ‘Save Our Magnificent Meadows’yn ceisio codi ymwybyddiaeth pobl o dranc gweirgloddiau a glaswelltir blodeuog.